Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Mae’r Senedd wedi sefydlu’r Pwyllgor Iechyd a Diogelwch i edrych ar bolisi a deddfwriaeth, ac i ddwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif ar faterion penodol. Mae hyn yn cynnwys iechyd corfforol, iechyd meddwl ac iechyd y cyhoedd a llesiant pobl Cymru, gan gynnwys y system gofal cymdeithasol.

Mae gan y Pwyllgor chwe aelod a ddaw o’r gwahanol bleidiau sy’n cael eu cynrychioli yn y Senedd. Caiff ei gadeirio gan Russell George AS.

Mae rhagor o wybodaeth isod am y Pwyllgor, ei aelodau, a’r rhestr o feysydd y mae’n eu trafod.

Deddfwriaeth

Gwaith eraill

Cylch Gwaith

Sefydlwyd y Pwyllgor ar 23 Mehefin 2021 i archwilio deddfwriaeth a dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif drwy graffu ar ei gwariant, ei gweinyddiaeth a'i pholisïau, yn cwmpasu'r meysydd a ganlyn (ond heb fod yn gyfyngedig iddynt): iechyd corfforol, iechyd meddwl, iechyd y cyhoedd a llesiant pobl Cymru, gan gynnwys y system gofal cymdeithasol.

Aelodau'r Pwyllgor