Gwybodaeth am Gofnod y Trafodion

Cyhoeddwyd 01/09/2020   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/01/2022   |   Amser darllen munudau

Mae Cofnod y Trafodion yn ei hanfod yn drawsgrifiad gair am air o drafodion cyfarfodydd llawn y Senedd. Mae'n cofnodi'r hyn a gafodd ei ddweud yn ogystal â'r hyn y penderfynwyd arno.​

Mae Cofnod y Trafodion fel Hansard neu'r adroddiadau swyddogol a gyhoeddir gan ddeddfwrfeydd eraill yn y DU, ond y gwahaniaeth yw ei fod yn gofnod dwyieithog.

Amdanom ni​

Mae seneddau yn llunio adroddiadau swyddogol fel y Cofnod fel mater o arfer gorau democrataidd, er mwyn caniatáu i bobl ddarllen am yr hyn sydd wedi digwydd yn eu deddfwrfa. Gall unrhyw un sydd am gael gwybod am yr hyn a ddigwyddodd yn y Senedd ddefnyddio'r Cofnod. Er enghraifft, mae'n dangos sut y gwnaeth eich Aelod bleidleisio ar fater, a'r hyn a ddywedodd ar fater penodol.

Yn yr un modd, mae'n caniatáu i wleidyddion, cyfreithwyr a'r cyfryngau benderfynu ar union fwriad deddfwriaeth a gaiff ei phasio gan y Senedd.

Chwilio drwy Gofnod y Trafodion

Y broses gyhoeddi

Cyfarfod Llawn 

Caiff trawsgrifiadau o'r Cyfarfod Llawn eu cyhoeddi i ddechrau yn yr iaith a siaredir, gyda thrawsgrifiad o'r cyfieithu ar y pryd pan siaredir Cymraeg. Cyhoeddir fersiwn ddrafft bob yn dipyn a bydd yn dechrau ymddangos tua awr ar ôl dechrau'r Cyfarfod Llawn. Caiff ei diweddaru bob chwarter awr.
Caiff Cofnod y Trafodion ei gyhoeddi ar-lein o fewn 24 awr ac mae'n cynnwys lincs i'r canlyniadau pleidleisio llawn, i fywgraffiadau'r Aelodau ac i Senedd TV. Mae hefyd le i rannu cyfraniadau unigol gan Aelodau ar gyfryngau cymdeithasol ac opsiynau i gopïo fel testun plaen er mwyn argraffu'n haws.

Cyhoeddir y fersiwn derfynol gwbl ddwyieithog, gyda phob cyfraniad yn y ddwy iaith, o fewn tri diwrnod gwaith. Cyhoeddir atebion i Gwestiynau Llafar nas cyrhaeddwyd yn ystod y Cyfarfod Llawn o fewn 24 awr.

Pwyllgorau

​​​Cadair

Mae trawsgrifiadau o gyfarfodydd pwyllgorau ar gael ar ffurf ddrafft o fewn tri i bum diwrnod gwaith, ac mae fersiwn derfynol yn cael ei chyhoeddi o fewn 10 diwrnod gwaith.

Mae trawsgrifiadau pwyllgorau'n cynnwys y cyfieithiad ar y pryd o'r Gymraeg i'r Saesneg a ddarlledwyd yn ystod y cyfarfod, ond ni chaiff y cyfraniadau Saesneg eu cyfieithu i'r Gymraeg.

​​Defnyddio Cofnod y Trafodion

Gellir chwilio'n llawn drwy Gofnod y Trafodion ar-lein yn ôl gair allweddol, ac mae modd rhannu ac mae ar gael mewn nifer o fformatau.

Chwilio drwy Gofnod y Trafodion

Os ydych chi'n newydd i ddefnyddio Cofnod y Trafodion, darllenwch ein canllawiau ar gyfer y derminoleg a ddefnyddir, ein hadran ar y Cyfarfod Llawn a chanllawiau i bwyllgorau'r Senedd.

Os ydych chi'n ddatblygwr sy'n bwriadu defnyddio fersiwn XML o Gofnod y Trafodion, darllenwch ein canllawiau ar ddefnyddio data agored y Senedd.