Nodyn Preifatrwydd Biliau Aelodau (i Gorfennaf 2022)

Cyhoeddwyd 07/03/2018   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 18/07/2022   |   Amser darllen munudau

Dilys o 7 Mawrth 2018 i 18 Gorffenaf 2022

Defnyddio'ch ymateb i'r ymgynghoriad

Bydd y Senedd yn gwneud copïau caled a chopïau electronig o'ch ymateb i'r ymgynghoriad ynghylch Bil Aelod.

Bydd Aelodau o'r Senedd (gan gynnwys yr Aelod sy'n gyfrifol am y Bil), staff cymorth a staff Comisiwn y Senedd yn defnyddio'r copïau hyn wrth ddatblygu'r Bil, wrth hyrwyddo'r effaith y bwriedir iddo ei chael, ac wrth graffu ar y Bil maes o law. Mae'r gwaith prosesu hwn yn angenrheidiol i'n galluogi i gyflawni ein swyddogaethau fel deddfwrfa.

Bydd pob copi yn cael ei storio'n ddiogel, naill ai ar ein rhwydwaith TGCh (sy'n cynnwys gwasanaethau cwmwl trydydd parti Microsoft- mae unrhyw ddata a gaiff ei drosglwyddo gan Microsoft y tu allan i'r AEE wedi'i gwmpasu gan gymalau cytundebol sy'n sicrhau bod Microsoft yn trin data personol yn unol â deddfwriaeth Ewropeaidd), neu yn ein swyddfeydd diogel ni.

Nid oes rhaid i Aelod sy'n datblygu Bil dderbyn eich tystiolaeth ysgrifenedig, ac nid oes rhaid i'r Aelod gyhoeddi eich tystiolaeth yn llawn neu'n rhannol, hyd yn oed os yw wedi ei derbyn. Gall hyn ddigwydd pan fydd y dystiolaeth yn hir iawn neu'n cynnwys deunydd sydd, yn ein barn ni, yn amhriodol i'w gyhoeddi.

Cyhoeddi, cadw a defnyddio'ch ymateb i'r ymgynghoriad

Caiff y Senedd gyhoeddi eich ymateb i'r ymgynghoriad, yn llawn, ar ein gwefan ac, o ganlyniad bydd, y wybodaeth i'w gweld gan unrhyw un sy'n chwilio amdani ar y rhyngrwyd. Bydd y fersiwn electronig gyhoeddedig, o'ch ymateb i'r ymgynghoriad yn cael ei chadw am gyfnod amhenodol ar ein rhwydwaith TGCh mewnol diogel a chan yr Archifau Cenedlaethol er mwyn cadw cofnod hanesyddol o'r gwaith o ddatblygu deddfwriaeth.

Gofynnwn ichi nodi'n glir yn eich ymateb i'r ymgynghoriad a ydych yn ei gyflwyno fel rhan o'ch rôl swyddogol ynteu ai ymateb personol ydyw. Yn achos tystiolaeth sy'n cael ei chyflwyno:

  • fel rhan o'ch rôl swyddogol (ee, fel rhan o'ch swydd neu rôl swyddogol arall), bydd y fersiwn a gyhoeddir yn cynnwys eich enw a'ch manylion cyswllt, ac efallai y caiff y manylion hynny hefyd eu defnyddio mewn cyhoeddiadau eraill neu ddeunydd cyhoeddusrwydd, oni bai eich bod yn datgan yn eich tystiolaeth eich bod yn dymuno dileu'r manylion hynny.
  • os yw'n ymateb personol, bydd y fersiwn a gyhoeddir yn cynnwys eich enw, ond nid eich manylion cyswllt preifat.

Efallai y byddwn hefyd yn defnyddio'r fersiwn a gyhoeddir, neu ran ohoni, mewn cyhoeddiadau neu ddeunydd cyhoeddusrwydd yn ymwneud â'r Bil Aelod. Er enghraifft, efallai y byddwn yn dyfynnu o'ch ymateb:

  • yn y Memorandwm Esboniadol i'r Bil, pan gaiff ei gyflwyno;
  • mewn datganiadau i'r wasg a gyhoeddir er mwyn codi ymwybyddiaeth o effaith y Bil;
  • mewn adroddiadau a phapurau eraill sydd ar gael yn gyhoeddus ac sy'n gysylltiedig â gwaith craffu ar y Bil gan bwyllgor; caiff y rhain eu cyhoeddi ar ein gwefan a'u dosbarthu ar ffurf copi caled i bartïon sydd â diddordeb (gyda'r fersiwn electronig yn cael ei chadw ar ein rhwydwaith a gan yr Archifau Cenedlaethol);
  • mewn papurau briffio pwyllgor nad ydynt yn cael eu cyhoeddi fel mater o drefn ond sy'n cael eu cadw am gyfnod amhenodol ar ein rhwydwaith TGCh mewnol diogel;
  • ar ein gwefan (sy'n cael ei harchifo am gyfnod amhenodol gan yr Archifau Cenedlaethol);
  • ar sianel ar-lein eraill (fel Twitter a YouTube) lle caiff gwybodaeth ei chadw a'i phrosesu'n unol â pholisïau preifatrwydd y proseswyr unigol hynny (mae polisïau preifatrwydd perthnasol y proseswyr hynny i'w gweld ar eu gwefannau).

Os ydych yn ymateb i ymgynghoriad drwy arolwg ar-lein – cofiwch bod yr arolwg yn cael ei weinyddu gan Smart Survey. Bydd Smart Survey yn dal gafael ar y wybodaeth a roddir gennych o fewn yr Ardal Economaidd Ewropeaidd ac ymrwymo i'w defnyddio yn unol â deddfwriaeth yr UE. Gellir cael rhagor o wybodaeth am sut y bydd Smart Survey yn ymdrin â'ch gwybodaeth ar wefan y cwmni https://www.smartsurvey.co.uk/security.

Os byddwch yn darparu unrhyw wybodaeth arall yn eich tystiolaeth nad yw, yn eich barn chi, yn addas i'w datgelu i'r cyhoedd, gofynnwn ichi nodi yn eich tystiolaeth pa rannau na ddylid eu cyhoeddi a'r rhesymau pam. Byddwn yn ystyried hynny wrth gyhoeddi ymatebion i'r ymgynghoriad ac wrth ymdrin ag unrhyw geisiadau am wybodaeth (gweler isod). Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y math o wybodaeth sy'n addas i'w darparu fel tystiolaeth ysgrifenedig, cysylltwch â'r swyddog perthnasol a enwir yn y ddogfen ymgynghori.

Cysylltu â chi

Byddwn yn cadw eich manylion cyswllt (ar ein rhwydwaith TGCh mewnol diogel) drwy gydol y Pumed Cynulliad (hynny yw, tan fis Ebrill 2021) fel y gallwn:

  • roi'r wybodaeth ddiweddaraf ichi am y gwaith o ddatblygu'r Bil;
  • gofyn unrhyw gwestiynau dilynol angenrheidiol am eich ymateb i'r ymgynghoriad;
  • trafod (os yw'n briodol) a ydych yn dymuno cyflwyno tystiolaeth ysgrifenedig neu dystiolaeth lafar wrth i bwyllgor graffu ar y Bil;
  • anfon copi o adroddiad y pwyllgor atoch ar ddiwedd yr ymchwiliad; a
  • chysylltu â chi ynghylch unrhyw waith dilynol gan y pwyllgor yn ystod y broses o graffu ar y Bil.

    Ni fyddwn yn cysylltu â chi i drafod busnes arall y Senedd y tu hwnt i'r gwaith o ddatblygu'r Bil Aelod a chraffu arno. I gael gwybodaeth am ddilyn busnes arall y Senedd a chymryd rhan ynddo, ewch i'n gwefan: www.senedd.cymru/busnes

Ceisiadau am wybodaeth gan y Senedd

Os gwneir cais am wybodaeth o dan y ddeddfwriaeth hawl i weld gwybodaeth, efallai y bydd yn rhaid datgelu'r wybodaeth a ddarparwyd gennych, neu ran ohoni. Fe allai hynny gynnwys gwybodaeth a ddilëwyd cyn hynny gan y Senedd at ddibenion cyhoeddi. Dim ond os yw'n ofynnol yn ôl y gyfraith y byddwn yn gwneud hynny.

Rheolydd data

Comisiwn Senedd Cymru yw rheolydd data'r wybodaeth y byddwch yn ei darparu, a bydd yn sicrhau bod y wybodaeth hon yn cael ei diogelu a'i defnyddio yn unol â deddfwriaeth diogelu data.

Eich hawliau

Caiff eich data personol eu prosesu at ddibenion perfformio tasg a gaiff ei chynnal er budd y cyhoedd gan Gomisiwn y Senedd (sef datblygu Bil Aelod).

Os hoffech:

  • arfer unrhyw un o'r hawliau sydd gennych o dan y ddeddfwriaeth (fel yr hawl i: ofyn i weld eich data eich hun; neu, mewn rhai amgylchiadau, yr hawl i'w ddiweddaru neu ei gywiro, i wrthod i ni ei ddefnyddio neu i gyfyngu ar ein hawl i'w ddefnyddio);
  • gofyn cwestiwn, neu
  • gwyno am y modd y defnyddiwyd eich gwybodaeth

cysylltwch â Rheolwr Llywodraethu Gwybodaeth y Senedd (Alison.Bond@senedd.cymru). Gallwch hefyd gyflwyno cwyn i'r Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth os ydych yn credu nad ydym wedi defnyddio'ch gwybodaeth yn unol â'r gyfraith. Mae manylion cyswllt Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth ar gael ar ei gwefan, sef www.ico.uk.

Sylwch na fydd modd gorfodi rhai o'r hawliau hyn nes bydd y Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol yn dod yn weithredol yn y DU ar 25 Mai 2018.