Pobl y Senedd

Mabon ap Gwynfor AS

Mabon ap Gwynfor AS

Aelod Etholaethol o'r Senedd

Plaid Cymru

Grŵp Plaid Cymru

Dwyfor Meirionnydd

Fy Ngweithgareddau yn y Senedd

Cynnig bod y Senedd: 1. Yn nodi: a) bod ysmygu yn lladd 5,600 o bobl y flwyddyn yng Nghymru ac yn rhoi baich enfawr ar GIG Cymru o fwy na £300 miliwn bob blwyddyn; b) mai ysmygu yw pri...

I'w drafod ar 30/04/2024

A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad ar ganlyniad terfynol adolygiad y Gwasanaeth Casglu a Throsglwyddo Meddygol Brys i ddarparu gwasanaethau ambiwlans awyr yng Nghymru yn y dyfodol?

Tabled on 24/04/2024

Pa ystyriaeth y mae Llywodraeth Cymru wedi'i rhoi i gyflwyno deallusrwydd artiffisial yng ngwasanaethau digidol GIG Cymru?

Wedi'i gyflwyno ar 22/04/2024

Beth yw gweledigaeth y Llywodraeth ar gyfer hyrwyddo treftadaeth ddiwylliannol Cymru?

Wedi'i gyflwyno ar 17/04/2024

Faint o arolygiadau o ysbytai a meddygon teulu y mae Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru wedi'u cynnal bob mis ers mis Mai 2022?

Wedi'i gyflwyno ar 16/04/2024

A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet egluro beth yw ffynhonnell y cyllid ychwanegol a fydd yn sail i'r cynnig cyflog diwygiedig arfaethedig i feddygon iau?

Wedi'i gyflwyno ar 12/04/2024

Rhagor o wybodaeth a digwyddiadau yn y calendr

Gwybodaeth fanwl: Mabon ap Gwynfor AS

Bywgraffiad

Prif ddiddordebau a chyflawniadau

Mae Mabon ap Gwynfor yn ymddiddori mewn ystod eang o feysydd, yn cynnwys materion rhyngwladol yn ymwneud a heddwch a chydberthynas gwladwriaethau; a hawliau cymunedol a phobl. Sefydlodd Mabon Gyngrhair Iechyd Gogledd Cymru yn 2013. Roedd yn gyd-drefnydd i wyliau heddwch cenedlaethol Cymru o 2004 i 2006. Mae Mabon yn Gristion. Mae’n arlunydd cain amatur, ac yn ymddiddori mewn ffotograffiaeth, darllen yn eang, a chwarae gyda’I blant.

Hanes personol

Mae Mabon yn wr I Nia, ac yn dad I bedwar o blant. Maent yn byw ar y fferm deuluol. Yn fab I’r mans, symudodd y teulu I wahanol gymunedau. O ganlyniad mynychodd Mabon amryw o ysgolion uwchradd: Ysgol Gyfun Dyffryn Teifi, Ysgol Gyfun Gwyr, a Chanolfan Gwenallt yn Ystalyfera, gyda chyfnod byrhoedlog yn Ysgol St Roses, Georgetown, Guyana.

Cefndir proffesiynol

Graddiodd Mabon o Brifysgol Cymru, Bangor gyda gradd BA mewn Hanes. Mae cefndir proffesiynol Mabon yn y wasg a rheoli proseictau.

Hanes gwleidyddol

Etholwyd Mabon fel Cynghorydd Tref yn Aberystwyth yn 2004, ac fel Cynghorydd Sir ar gyfer ward Llandrillo ar Gyngor Sir Ddinbych yn 2017.

Aelodaeth

Tymhorau yn y swydd

  1. 08/05/2021 -

Gweld y Gofrestr Fuddiannau Gyfredol

Aelodaeth o Grwpiau Trawsbleidiol

Etholiadau

Asedau'r Cyfryngau

Digwyddiadau calendr: Mabon ap Gwynfor AS