Gwnewch gais i gynnal arddangosfa

Cyhoeddwyd 18/05/2022   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 02/05/2024   |   Amser darllen munudau

Mae’r Senedd a’r Pierhead yn gartref i raglen reolaidd o arddangosfeydd, sy’n rhoi’r cyfle i chi godi proffil eich sefydliad neu gymuned a’i ddyheadau a’i bryderon.

Mae’r arddangosfeydd yn rhai thematig i adlewyrchu cyfrifoldebau a blaenoriaethau’r Senedd, neu cânt eu curadu mewn partneriaeth â sefydliadau cenedlaethol i arddangos treftadaeth ddiwylliannol Cymru neu i ddangos arwyddocâd eang ar lwyfan y byd.

Gweler enghreifftiau o arddangosfeydd y gorffennol yma.

Mannau arddangos

 

Yr Oriel

Mae Oriel y Senedd yn union uwchben y siambr drafod, ac mae’r arddangosfeydd yn adlewyrchu pynciau llosg y dydd gan sbarduno sgyrsiau am fywyd yng Nghymru, democratiaeth Cymru, a gwaith y Senedd.

Mwy o fanylion

Sut i wneud cais am arddangosfa

  1. Cwblhewch y ffurflen gais arddangosfa gyda chymaint o fanylion â phosibl.
  2. Dylai pawb sy'n trefnu arddangosfa ddarllen dros delerau ac amodau'r Senedd cyn cwblhau a chyflwyno cais.
  3. Mae tîm Arddangosfeydd y Senedd yn gwerthuso ceisiadau yn rheolaidd. Cynhelir adolygiad o geisiadau newydd ar ddechrau bob tymor Senedd ym mis Ionawr, mis Ebrill, mis Gorffennaf a mis Hydref.
  4. Yn dilyn yr adolygiad byddwch yn derbyn e-bost gyda'r canlyniad.
  5. Os bydd eich cais yn llwyddiannus bydd angen ichi wedyn ofyn am nawdd gan Aelod o’r Senedd er mwyn i’ch arddangosfa gael ei chadarnhau.

 

Mae arddangosfeydd yn y Senedd fel arfer yn rhedeg am 6-12 wythnos, ac mae angen o leiaf 6 mis ar gyfer ceisiadau newydd.

Nid yw mannau arddangos yn addas ar gyfer dangos prosiectau am ychydig ddyddiau’n unig, e.e. arddangosfeydd a gyflwynir ar faneri naid. Gall y math hwn o arddangosfa fod yn fwy addas ar gyfer digwyddiad.

Gofynnwn i’r holl drefnwyr fod mor hyblyg â phosibl o ran eu dewis ddyddiad gan fod galw mawr iawn am fannau arddangos ar draws ystad y Senedd.

 

Noder: Mae mannau arddangos y Senedd yn llawn tan fis Mehefin 2025.  

Byddwn yn dal i ystyried cynigion ar gyfer arddangosfeydd a fydd ar gael cyn mis Mehefin 2025 yn unig (rhag ofn y caiff archeb arall ei chanslo neu y bydd lleoliad arall yn addas ar gyfer gwaith celf), ond cadwch yr amserlenni hyn mewn cof wrth ddewis y dyddiadau sydd orau gennych ar gyfer eich cais.

cysylltu

Am ragor o wybodaeth neu gyngor cysylltwch â’r Tîm Lleoliadau yn lleoliadau@senedd.cymru neu ffoniwch ni’n uniongyrchol ar 0300 200 6218.